top 100
·
top new
·
updates
·
submit lyrics
#
A
B
C
D
E
F
G
H
I
J
K
L
M
N
O
P
Q
R
S
T
U
V
W
X
Y
Z
Correct Gwaed Ar Eu Dwylo Lyrics
Lyrics
►
Artists: P
►
Plethyn
►
Correct Gwaed Ar Eu Dwylo
Artist:
Song:
Comment:
Lyrics:
[Verse 1] O Tomos John Williams, mi welaf dy fedd Ar gaeau glas Ffrainc sydd heddiw mewn hedd. 'Rwyt heddyw mor unig, mor bell o Fron Goch A'r pabi yn unig sy'n cofio'r gwaed coch. Mi welaf nad oeddyt ddim ond deunaw oed Wrth ddisgyn i'r Somme — dyna'r hanes erioed; Wrth ymladd dros wledydd a thros eu rhyddhau Mi gefaist yn ddeunaw i'r ddaear dy gau. [Chorus 1] Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr, Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast, Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo. [Verse 2] A phwy oeddan nhw ddwedodd wrthyt ysgwn Mai swanc oedd o lanc ysgwyddo y gwn; A phwy oeddan nhw efo'u hiwnifform swel A'th ddriliodd, a'th fartsiodd, a'th fwrdrodd mewn sbel? Ni welais drwy hyn tan rhy hwyr yn y dydd Ni che'st ti mo'r cyfle i dyfu'n ddyn rhydd, Ond drwy'r mŵg a thrwy'r medals wrth ddisgyn i'r llawr Mi welaist nad nhw fyddai'n wylo yn awr. [Chorus 2] Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr, Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast, Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo. {Verse 3] 'Roedd eraill mewn cell yn dy annwyl Fron Goch Yn llwydaidd eu gwedd, yn cael bwyd cibau'r moch, Ond fflam eu gwrthryfel a gadwant ynghyn, A Werddon a gododd drwy safiad di-gryn. Mi gawsant gaethiwed am geisio rhyddhau Eu gwlad hwy o'r dwylo a'th yrrodd i'th wae, A mam yn Mron Goch oedd a'i chalon yn drom Wrth glywed fod llencyn yn llwch yn y Somme. [Chorus 3] Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr, Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast, Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo. [Verse 4] Mae dynion yn Llundain o'u seddau'n Whitehall Yn gyrru i ryfel rhai byth na ddon 'nol, O slymiau tre Glasgow, neu Gymru cefngwlad Mae hogyn diniwed yn crychu y gad — I farw neu ynteu i ladd ei gyd-ddyn, Yn enw rhyw ryddid nas gŵyr ei hun, 'Rwyt ti Tomos Williams ddim yn y byd Yn disgyn yn 'sglyfaeth i'r ffosydd o hyd. [Chorus 4] Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr, Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast, Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo, Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo.
add rows